YMGEISIO
Darllenwch drwy Friff yr Artist a chwblhewch y ffurflen Mynegi Diddordeb isod
Mae’r arddangosfa hon yn un rhan o HADAU 2025, Gŵyl Celfyddydau Gymreig sy’n dathlu creadigrwydd a ffydd yng Nghymru.
Cynhelir Hadau yn Eglwys Urban Crofters yn y Rhath, Caerdydd, mewn partneriaeth â Morphé Arts Cymru.
Fe'ch gwahoddir i gyflwyno gwaith i'w gynnwys yn yr arddangosfa.
Ein thema yw ‘Wedi gorffen?’
Mae gennym ddiddordeb mewn gwaith newydd - gorffenedig neu anorffenedig. Gwaith sy'n archwilio'r frwydr mae llawer o artistiaid yn ei brofi gyda phroses ag allbwn a'r her o'r hyn y mae'n ei olygu i orffen gwaith - pryd mae wedi'i orffen, a oes angen ei orffen? Yn ogystal â'r brwydrau a gawn i gyd gyda diweddu a ffarwelio.
Gall y gwaith fod o unrhyw faint, 3D neu 2D. Gall fod ar gyfer arddangos y tu mewn neu du allan i'r adeilad. Bydd gennym o leiaf un sgrin i ddangos perfformiad neu waith sgrin. Rydym yn agored i bob awgrym ac mae croeso i chi gwrdd â ni yn y safle i drafod posibiliadau.
Mae hwn yn gyfle i bobl greadigol gyfrannu at greu arddangosfa ysgogol sy’n procio’r meddwl yn adeilad Urban Crofters rhwng Mawrth 1af a Mai 8fed 2025.
Rhoddir cyhoeddusrwydd eang i'r arddangosfa. Bydd dathliad agoriadol a chynulleidfa o tua 500 yr wythnos dros y deg wythnos.Mae croeso i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiad cryf â Chymru gyflwyno gwaith.
Bydd proses ddethol i guradu arddangosfa fydd yn gweithio yn y gofod, ac yn ysgogi sgyrsiau gyda’r gynulleidfa.
Y curaduron fydd:Adeilad ar Stryd Crofts yn y Rhath , Caerdydd yw Urban Crofters.
Mae'r lleoliad yn gartref i Eglwys Urban Crofters, Caffi Ground Up ac Oriel y West Wall.Send us a happy 👋🏻 to shwmae@hadau.cymru or nate@morphearts.org if you need any more help.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno gwaith ar gyfer yr arddangosfa hon (uchafswm o 3 darn) rhowch wybod i’r curaduron drwy lenwi’r ffurflen mynegi diddordeb (ar gael ar wefan Hadau) cyn gynted â phosibl a dim hwyrach na 12pm ar Ionawr 31ain.
Unwaith y byddwn yn derbyn eich mynegiant o ddiddordeb byddwn yn ei rannu gyda'r panel dethol a naill ai'n gofyn mwy o gwestiynau neu'n eich gwahodd i gyflwyno gwaith. Bydd hwn yn digwydd yn gyflym iawn.- Error: empty slot
Check out the list of speakers, panel/forum/ workshop leaders
2 days, 20 speakers, 14 workshops, 9 live performances...
See what's happening at this years' HADAU Welsh Arts Festival!
Apply now to exhibit your artwork in HADAU 2025!